Gwersi
Mae Manon wedi bod yn dysgu'n breifat ers 2018, ar y delyn a'r piano, wyneb-yn-wyneb neu dros Zoom. Mae hefyd yn dysgu yn Ysgol Hill House yn Chelsea, ac Ysgol Beatrix Potter yn Earlsfield. Mae'n paratoi disgyblion yn drylwyr ar gyfer arholiadau, gyda cyfradd pasio cryf, a wedi hefyd paratoi disgyblion ar gyfer arholiadau Theori Gradd 5 ABRSM. Mae hi'n hapus i ddysgu gwersi unigol a mewn grwpiau, a mae ganddi brofiad yn dysgu pob oedran. Astudiodd Manon yn y Guildhall School of Music and Drama a mae hi'n brofiadol yn dysgu dechreuwyr a disgyblion sy'n paratoi ar gyfer y brifysgol. Gall hefyd gynnig gwersi yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae Manon yn byw rhwng Llundain a Stroud a mae ganddi argaeledd i ddysgu disgyblion newydd yn y ddwy ardal ac yn Sir Caerloyw - cysylltwch os oes diddordeb!
Tystebau
Mae gan Manon ddawn arbennig i harnesu diddordeb ei disgyblion ac mae’n ymateb i’r brwdfrydedd yna yn ei gwersi. Mae’r gwersi bob amser yn ddiddorol ac roedd fy merch yn edrych ymlaen i bob un! Mae ganddi dalent i godi hyder ei disgyblion, nid yn unig ar gyfer sefyll arholiadau ond hefyd mae hi’n ennyn hyder iddyn nhw allu perfformio yn gyhoeddus. Mae ei brwdfrydedd a’i chariad at gerddoriaeth yn heintus! - Catrin, rhiant
Mae Manon yn athrawes piano rhagorol. Yn ystod y pedair blynedd mae hi wedi dysgu fy ngefeilliaid, mae hi wedi gwneud cysylltiad personol â nhw ac wedi meithrin cariad at gerddoriaeth ynddyn nhw. Yn ei ffordd hynod amyneddgar a charedig, mae hi wedi datblygu eu sgiliau a’u hyder ac mae'n eu hannog i berfformio’n gyhoeddus a chystadlu. Mae llwyddiant fy mab yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dyst i allu arbennig Manon fel athrawes. Mae ei chyfarwyddiadau’n glir, ac mae’n ysgrifennu nodiadau yn ystod pob gwers sy’n fy ngalluogi i wirio bod fy mhlant yn canolbwyntio’n briodol wrth ymarfer! Gallaf ei hargymell o waelod calon. - Catherine, rhiant