top of page

Bywgraffiad

B024006MANBRO0049.jpg

Graddiodd Manon o Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, Llundain yn 2017 gyda gradd BMus Dosbarth Cyntaf gydag Anrhydedd, ar y Delyn Glasurol. Y flwyddyn ganlynol, graddiodd gydag MMus mewn Perfformio, gydag Anrhydedd. Astudiodd o dan Charlotte Seale ac Imogen Barford yn ystod ei hamser yn y Guildhall gan gymeryd rhan mewn nifer o Ddosbarthiadau Meistri gydag enwau adnabyddus ym myd y Delyn, megis Marisa Robles, Anneleen Lenaerts, Isabelle Perrin, Sivan Magen, Sylvain Blassel, Katherine Thomas, Hugh Webb a Catrin Finch.

​

Enillodd Ysgoloriaeth Nansi Richards yn 2017, derbyniodd yr ail wobr i  Gerddor Ifanc Rhyngwladol yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn 2018, a’r drydedd wobr yng Ngŵyl Delynau Rhyngwladol Caernarfon, hefyd yn 2018.

Yn wreiddiol o Gaerdydd, astudiodd gyda Meinir Heulyn yn y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol tra yn mynychu y ‘Conservatoire Iau’. Bu’n driw i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol yn ystod ei dyddiau ysgol ac fe enillodd Dlws Coffa Gwen Heulyn yn Eisteddfod yr Urdd Preseli, 2013. Enillodd yr unawd Telyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd yn 2018. Hi oedd enillydd Cystadleuaeth y Datgeinydd HÅ·n yng Ngwyl De Morgannwg i Gerddorion Ifanc yn 2012, ac un o’r cystadleuwyr yn rownd derfynol Gŵyl Pencerdd Gwalia, 2013.

​

Dechreuodd brofiadau cerddorfaol Manon pan oedd ond yn wyth oed trwy ganu’r ffidil yng Ngherddorfa Iau Sir Caerdydd a’r Fro, gan symud at y Delyn yn bennaf erbyn iddi ddod yn aelod o’r Gerddorfa Ieuenctid yn bymtheg. Bu’n delynores gyda hwy am chwe mlynedd, a chafodd brofiadau perfformio amhrisiadwy mewn amryw o leoliadau gan gynnwys dwy daith i’r Eidal. Yng Nghaerdydd, perfformiodd yn Neuadd Hoddinott yn rheolaidd ac uchafbwynt ei hamser gyda Cerddorfa Ieuenctid Caerdydd a’r Fro oedd ei datganiad o Gonsierto Glière i’r Delyn yn Rhagfyr 2016.

​

Bu’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru o 2012 – 2016 ac roedd yn Brif Delynores yn ystod ei dwy flynedd olaf o’r cyfnod yna. Gweithiodd gydag arweinwyr megis Grant Llewellyn, Paul Daniel, Jac Van Steen a Carlo Rizzi gan berfformio mewn neuaddau  cyngerdd ledled Y Deyrnas Unedig ac Ewrop yn ogystal yn ystod Taith 2013. Cafodd wobr ‘Taliesin’ am y cyfraniad gorau i’r adran delynau yn 2013. Yn 2016 cafodd yr anrhydedd o gyd-weithio gyda Valerie Aldrich-Smith a gweddill cerddorion y BBCNOW fel rhan o brosiect rhwng y BBCNOW a CGIC mewn cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

​

Yn ystod ei hamser yn y Guildhall, bu’n ganolog i nifer o brosiectau cyffrous, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni y Guildhall a'r opera, gan weithio gydag enwau mawr fel Sir Simon Rattle, Yan Pascal Tortelier, a Dominic Wheeler. Teithiodd Manon i Budapest gydag Opera y Guildhall yn 2016.

​

Mae Manon yn teimlo'n gryf am wneud cerddoriaeth glasurol yn ddiddorol a mwynhaol, a mae'n gwneud hyn drwy ei sesiynau 'Mad Harpist's Tea Party', gan gyflenwi cacennau a danteithion ar gyfer achlysuron arbennig. Mae modd cynnal sesiynau te prynhawn wedi eu personoliaethu, er enghraifft ar gyfer Gŵyl Ddewi, Y Pasg, Gemau rygbi, themâu Cymreig neu unrhywbeth sy’n benthyg ei hun i gerddoriaeth a chacennau. Mwynhewch baned a chacen tra’n cael eich swyno gan dannau’r Delyn!

​

Yn bianydd a chyfeilydd medrus, mae Manon yn perfformio a chystadlu yn rheolaidd gyda Chôr Llundain. Mae hefyd yn brofiadol wrth ymarfer a chyfeilio ar gyfer arholiadau graddau ABRSM a Trinity. Mae Manon wedi bod yn dysgu yn breifat, ar y delyn a'r piano, ers 2018, a hi yw'r Athrawes Delyn yn Ysgol Hill House yn Knightsbridge.

bottom of page